Wrth i'r flwyddyn symud mewn i'r gwanwyn, edrychwn at rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn hyd yn hyn o'r rhaglen Teithiau Iach a ariannir gan Lywodraeth Cymru.
Cyfarwyddwr yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, Fiona MacLeod, yn siarad yn ystod y dathliad ar gyfer Teithiau Iach a chynhelir yn y Senedd.
Mae eleni'n nodi degawd o'r Wobr Ysgol Teithio Llesol, menter sy'n cydnabod ysgolion sy'n dangos ymrwymiad cryf at hyrwyddo ac annog teithio llesol.
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae 123 o ysgolion balch wedi cyflawni'r wobr, a naw o'r ysgolion wedi ennill eu Gwobr Aur - llwyddiant gwych, ond hoffan weld mwy o ysgolion yn cymryd rhan a'r niferoedd yna'n codi.
I ddathlu'r cyflawniad hwn, cynhaliodd Walk Wheel Cycle Trust ddigwyddiad pen-blwydd arbennig yn y Senedd, gan ddod ag ysgolion, partneriaid a chefnogwyr ynghyd i fyfyrio ar effaith teithio'n llesol ledled Cymru.
Dangosodd y digwyddiad hwn holl waith a llwyddiannau gwych ysgolion yn eu hymdrechion i hybu dewisiadau teithio cynaliadwy, efo Ysgol Glannau Gwaun yn derbyn y Wobr Aur ddiweddaraf.
Galluogi lleisiau plant a phobl ifanc trwy'r rhaglen
Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ymgorffori teithio llesol yn eich ysgol yw drwy sefydlu grŵp llais y disgybl.
Gallai hyn fod ar ffurf Criw Teithiau Iach, Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau, neu drwy gynnwys teithio llesol mewn grwpiau sy'n bodoli eisoes, fel cyngor yr ysgol neu eco-bwyllgor.
Gall y grwpiau hyn chwarae rhan allweddol mewn hyrwyddo teithio iachus a chynaliadwy ymysg holl gymuned yr ysgol.
Gall disgyblion helpu i gynllunio digwyddiadau, dylunio posteri, cefnogi bysiau cerdded, gweithredu fel monitoriaid storio beiciau a chyfrannu at lawer o fentrau eraill sy'n annog teithio diogel a chynaliadwy.
Yn y dathliad diweddar, dangosodd Criw Diogelwch Ffyrdd Ysgol Glannau Gwaun y gwaith gwych maen nhw wedi bod yn ei wneud.
Mae'r disgyblion o Abergwaun wedi cynllunio eu llwybr sgwtera eu hunain o amgylch yr ardal leol ac wedi creu canllawiau defnyddwyr i ddangos i eraill ble i fynd a sut i ddefnyddio'r llwybr yn ddiogel.
Mae eu brwdfrydedd a'u creadigrwydd yn enghreifftiau bendigedig o sut y gall prosiectau dan arweiniad disgyblion wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Disgyblion Ysgol Gellionnen yn mwynhau taith beicio ar hyd Llwybr 43 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Chwilota llwybrau lleol a chreu pobl ifanc hyderus
Mae helpu disgyblion i gysylltu â'u hardal leol yn rhan bwysig o'r gwaith y mae'r rhaglen Teithiau Iach yn ei wneud.
Mae ein Swyddogion Teithiau Iach wedi bod yn cefnogi ysgolion trwy wersi mapio a theithiau cerdded i archwilio llwybrau diogel, gan roi cyfle i ddisgyblion arddel dull gwahanol o archwilio eu hamgylchedd.
Mae'r sesiynau hyn yn helpu disgyblion i feddwl yn feirniadol am eu teithiau drwy ddysgu sut i asesu llwybr ac ystyried beth sy'n ei wneud yn ddiogel, yn hygyrch ac yn bleserus ar gyfer cerdded, olwyno neu feicio.
Mae hyn yn cynnwys nodi mannau croesi diogel a gweld peryglon posibl, fel bod disgyblion yn magu sgiliau ymarferol a all gefnogi teithio annibynnol a hyderus.
Lawr yn y de, cymerodd disgyblion o ysgolion cynradd Pilgwenlli, Parc a Gilfach Fargoed ran mewn ymchwiliadau ymarferol ar eu strydoedd lleol.
Gyda chanllawiau gan Swyddog Teithiau Iach, fe wnaethon nhw archwilio llwybrau o amgylch eu hysgolion, gan gynnwys parciau, ardaloedd siopa a strydoedd preswyl cyfagos.
Ar hyd y ffordd, nododd y disgyblion leoliadau parcio a cherdded, llwybrau amgen trwy fannau gwyrdd, a mannau allweddol lle gallai gwelliannau wneud teithio'n fwy diogel.
Yn y gogledd, mae ysgolion yng Nghei Connah hefyd wedi bod yn ymchwilio i'w hardal leol, gan ddefnyddio mapiau a delweddau digidol i gefnogi eu cynllunio llwybrau.
Mae sgiliau map yn rhan hanfodol o ddysgu sut i ddewis a llywio taith ddiogel - sgiliau allweddol i'r disgyblion ddatblygu hyder wrth ddehongli eu hamgylchedd ar bapur ac mewn bywyd go iawn.
Gyda'i gilydd, mae'r gweithgareddau hyn yn helpu disgyblion i ddatblygu ymdeimlad cryfach o le, gan feithrin annibyniaeth, a'u grymuso i wneud dewisiadau teithio mwy diogel a chynaliadwy.
Cefnogi anturiaethau beicio yn ardal Abertawe
Mae ein Swyddog Teithiau Iach lleol wedi bod yn gweithio'n agos gydag Ysgol Gellionnen wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer taith feicio noddedig gyffrous.
Yn y cyfnod cyn y digwyddiad, derbyniodd disgyblion, staff a gwirfoddolwyr gymorth ymarferol gan gynnwys gwiriadau diogelwch a mân drwsio beiciau i sicrhau bod pawb yn hyderus ac yn barod i feicio.
Ar ddiwrnod y digwyddiad, mwynhaodd y disgyblion daith feicio ar hyd Llwybr 43 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a'r llwybr beicio ar lan y gamlas ger Clydach.
Roedd yn gyfle gwych i gymuned yr ysgol gyfan ddod at ei gilydd, dathlu teithio'n llesol a phrofi llawenydd beicio mewn amgylchedd diogel a chefnogol.